Betsan Moses sydd wedi’i phenodi yn Brif Weithredwr newydd yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mi fydd yn olynu’r cyn-Brif Weithredwr, Elfed Roberts, sydd wedi bod yn y swydd ers 30 mlynedd.

Daw Betsan Moses yn wreiddiol o Bontyberem yng Nghwm Gwendraeth, ac wedi cyfnod yn Bennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod, bu’n Bennaeth Cyfathrebu a Chysylltiadau Allanol Cyngor Celfyddydau Cymru.

“Anrhydedd a her”

Wrth gamu i’r swydd, mae Betsan Moses yn dweud ei bod yn “anrhydedd ac yn her” cael ei phenodi’n Brif Weithredwr newydd ar y brifwyl.

“Mae’r Eisteddfod yn rhan ganolog o’n treftadaeth,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda staff a gwirfoddolwyr ymroddedig wrth i ni barhau i ddatblygu’r Ŵyl i’r blynyddoedd i ddod a chreu cyfleoedd i ddathlu’r iaith Gymraeg a’n diwylliant dros Gymru gyfan.”

Fe fydd Betsan yn cychwyn ar ei swydd ym mis Mehefin, wrth i Elfed Roberts ymddeol wedi’r Eisteddfod a fydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd eleni.