Mae grŵp o denantiaid yn ardal Aberystwyth yn honni bod cymdeithas dai wedi ymddwyn yn “farbaraidd” trwy orfodi pobol mewn fflatiau i gael gwared ar eu cŵn.

Daw hyn ar ôl i gymdeithas Tai Ceredigion anfon llythyrau at eu tenantiaid yn ardal Penparcau, Aberystwyth, yn dweud bod ganddyn nhw 30 diwrnod i gael gwared ar eu cŵn, neu fe fyddan nhw’n gorfod symud allan.

Ond yn ôl Tai Ceredigion, mae’n nodi’n glir yn eu contract tenantiaeth na ddylai cŵn gael eu cadw mewn fflatiau, a’u bod nhw wedi cymryd y cam diweddar hwn ar ôl digwyddiad lle cafodd un tenant ei anafu.

Gweithred “farbaraidd” 

Wrth annog tenantiaid i fynd i gyfarfod brys ym Mhenparcau heno (nos Iau, Chwefror 8) er mwyn trafod y mater, mae’r grŵp, ‘Ceredigion Tenants’, yn dweud ar eu tudalen Facebook bod Tai Ceredigion wedi gweithredu’n “farbaraidd” trwy anfon y gorchymyn hwn.

“Rydyn ni’n cynnal y cyfarfod hwn er mwyn rhannu syniadau, rhannu cyngor, a chreu ymateb ar ran y gymuned i’r gorchymyn annerbyniol hwn gan Tai Ceredigion,” medden nhw.

Penparcau Community Forum there's a meeting tonight to address the sudden banning of pets for Tai ceredigion residents,…

Posted by Claire Risley on Thursday, 8 February 2018

Mewn postiad cynharach gan y Grŵp, maen nhw’n dweud eu bod nhw wedi derbyn cyngor gan yr elusen, Shelter Cymru, yn annog tenantiaid i beidio â chael gwared ar eu cŵn, ac y dylen nhw dderbyn cyngor cyfreithiol.

IMPORTANT INFORMATION FOR ALL TAI CEREDIGION TENANTSShelter Cymru have today issued the following advice to all Tai…

Posted by Acorn Ceredigion Renters' Union on Friday, 2 February 2018

Mae golwg360 wedi gofyn i Shelter Cymru am ymateb.