Mae tafarn newydd ar safle’r Mochyn Du yng Nghaerdydd, wedi tynnu nyth cacwn yn ei ben ar ôl enwi cwrw yn ‘Mockyn Du’ a’i roi dan yr enw “cwrw Seisnig”.

Mae’r cwmni o Loegr, Brewhouse and Kitchen, sydd wedi prynu’r dafarn, bellach wedi ymddiheuro am y camsillafiad. Ond mae’n dal i lynu wrth y disgrifiad “English style ale” am ei fod yn “Session Bitter” sy’n gwrw Seisnig, yn ôl y cwmni.

Mae’r mater wedi creu stŵr ar Twitter gyda llawer yn cwyno bod y brifddinas wedi colli tafarn unigryw Gymreig i gadwyn ‘digymeriad a diflas’.

Ond mae Brewhouse and Kitchen yn mynnu ei bod yn wahanol gan ei bod yn bragu ei chwrw ei hun ar y safle a’i bod wedi paratoi gwefan a bwydlen ddwyieithog.

Y Mochyn Du

Roedd tafarn y Mochyn Du ar gyrion gerddi Sophia yn enwog am ei Chymreictod ac am gefnogi’r byd chwaraeon yng Nghymru.

Dafliad carreg oddi wrthi mae Stadiwm SWALEC, Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru ac mae hefyd yn gyrchfan boblogaidd adeg gemau rygbi Cymru yng Nghaerdydd.

Ar un adeg roedd yr adeilad yn borthordy i’r castell cyn troi’n swyddfeydd a’i addasu wedyn yn dafarn.

Pan ddaeth cwmni Brewhouse and Kitchen yn berchnogion arni, roedden nhw’n awyddus iawn i bwysleisio y bydden nhw’n cynnal y Cymreictod a’r dwyieithrwydd.

Dicter ar Twitter