Mae darlledwr o Gymru wedi gorfod wynebu cwestiynau anodd ar ei raglen radio ei hun heddiw, wrth i Aelod Seneddol ei herio am y sylwadau a wnaeth fis diwethaf am ffrae gyflogau’r BBC.

Fe gafodd cyflwynydd rhaglen Today BBC Radio 4, John Humphrys, ei ddal yn siarad â’r golygydd dros Ogledd America, Jon Sopel, am safiad Carrie Gracie, cyn-olygydd Tsieina, ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng cyflogau dynion a merched.

Ac ar ddiwedd y rhaglen heddiw, a oedd yn ymwneud â’r pwnc o aflonyddu rhywiol yn San Steffan, fe gafodd ei holi gan ddirprwy arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Jo Swinson, pam nad oedd wedi ymddiheuro i Carrie Gracie am ei sylwadau dadlennol.

“Gan eich bod chi yma, John, a ga’ i ofyn os ydych chi wedi ymddiheuro i Carrie Gracie am y sylwadau y gwnaethoch chi ynglŷn â’i safiad dewr am gyflogau cyfartal?” meddai’r Aelod Seneddol.

Atebodd John Humphrys: “Fe wnes i ysgrifennu e-bost at Carrie Gracie yn syth ar ôl y sgwrs, a do, fe wnes i [ymddiheurio], ac fe ymatebodd hi.

“Beth sydd gan hyn i’w wneud am yr hyn ydan ni’n ei drafod heddiw? Dw i ddim yn gwybod, ond dyna ni…”