Mae golffiwr proffesiynol sy’n rheoli clwb golff yn Ynys Môn wedi wfftio adroddiad amgylcheddol sy’n awgrymu bod newid hinsawdd yn peryglu dyfodol cyrsiau golff yng ngwledydd Prydain.

Yn ôl adroddiad gan y Climate Coalition, fe allai gaeafau cyunhesach a chynnydd yn lefel y môr beryglu’r math o gyrsiau glan-môr sy’n amlwg mewn gwledydd fel Cymru.

Mae tywydd gwael yn golygu ei bod yn amhosib chwarae rhai tyllau, medden nhw, ond roedd holl gyrsiau glan-môr y byd mewn peryg erbyn diwedd y ganrif.

‘Dim newid eithafol’

Ond, mae Rheolwr Clwb Golff Caergybi, Steven Elliott, yn honni nad yw wedi profi newid eithafol yn ystod ei 25 blynedd yn gweithio ar y cwrs sydd ar glogwyn uwch y môr.

Mae’n cydnabod fod tywydd gaeaf eleni wedi bod yn “wael” o gymharu â thywydd “ffantastig” y llynedd ond mae’n ffyddiog mai “cylchrediad” naturiol y blaned sy’n gyfrifol am hynny.

“Dydy hyn ddim yn effeithio arnon ni ar hyn o bryd,” meddai Steven Elliott wrth golwg360, gan bwysleisio bod y clwb hefyd yn ceisio gwarchod yr amgylchedd.

Roedd yr adroddiad yn awgrymu hefyd y gallai campau fel criced ddiodde’ oherwydd tywydd mwy eithafol ac y gallai diwydiant sgïo’r Alban ddod i ben o fewn 50 mlynedd.