ttu Guy Fe fydd merch ac ŵyr yn cael eu dedfrydu fory ar ôl eu cael yn euog o lofruddio hen wraig yn Sir Benfro.

Roedd Barry Rogers, 33, o Abergwaun, a Penelope John, 50, o Landudoch wedi gwadu llofruddio ei mam hi, Betty Guy, 84, ond roedd y rheithgor yn anghytunio.

Does dim esboniad wedi ei roi pam yr oedd y ddau wedi lladd yr hen wraig yn ôl yn 2011 ond roedd yr heddlu wedi recordio’r ddau yn trafod yr amgylchiadau.

Amheuon

Dim ond yn 2015 y cododd yr amheuon am achos marwolaeth Bettu Guy ar ôl i gyn-gariad i Barry Rogers ddweud ei fod wedi trafod y digwyddiad.

Ddoe fe ddywedodd aelodau eraill o deulu Bettu Guy eu bod wedi cael sioc pan glywson nhw nad oedd wedi marw’n naturiol ond eu bod yn credu bellach bod cyfiawnder wedi’i wneud.

Fe fydd y barnwr yn dedfrydu’r ddau yn Llys y Goron Abertawe.