Mae un o gefnogwyr penna’r AC newydd, Jack Sargeant, wedi dweud bod y pwysau bellach yn ôl ar y Prif Weinidog.

Y cwestiwn yn awr, meddai David Taylor, yw sut y bydd Carwyn Jones yn ymateb i fuddugoliaeth mab y dyn yr oedd wedi ei sacio o’r Llywodraeth ac a laddodd ei hun ychydig ddyddiau wedyn.

Fe fydd y pwysau’n fwy fyth oherwydd fod Jack Sargeant wedi cynyddu canran Llafur o’r bleidlais yn isetholiad Alyn a Glannau Dyfrdwy  – arwydd o’r gefnogaeth bersonol iddo ef a’i deulu.

Yn ôl David Taylor, fe fyddi hi’n ddiddorol gweld hefyd sut y byddai Jack Sargeant ei hun yn ymddwyn, meddai wrth Radio Wales: “A yw’n mynd i fod yn ufudd neu’n rhyw fath o wrthwynebiad answyddogol?”

‘Ffrindiau yn y Cabinet’

Fe ddywedodd fod gan Jack Sargeant nifer o ffrindiau o fewn y Cabinet yn y Bae yng Nghaerdydd – cyfeiriad, fwy na thebyg, at ACau eraill o’r Gogledd-ddwyrain, Lesley Griffiths a Ken Skates.

Doedd Carwyn Jones ddim wedi bod yn yngyrchu yn yr etholaeth ac roedd y teulu wedi gofyn iddo gadw draw o gynhebrwng Carl Sargeant.

Mae sylwebyddion gwleidyddol yn awgrymu bod ei ddyfodol gwleidyddol yn dibynnu ar ganlyniad ymchwiliad annibynnol i’r ffordd y cafodd Carl Sargeant ei drin yn dilyn honiadau ei fod wedi ymddwyn yn “amhriodol” ar ferched anhysbys.