Mae un o dafarnau Caerfyrddin yn gwrthod derbyn llythyr ymddiheuriad gan gwsmer a ddefnyddiodd ddau o’u byrddau yn y bar fel tŷ bach dros y Sul.

Roedd The Dog and Piano wedi postio neges ar Facebook neithiwr yn galw am “ymddiheuriad swyddogol” gan yr aelod o griw a fu yno brynhawn Sadwrn yn dathlu genedigaeth babi bach.

Ac yn ystod yr ymweliad yma, meddai’r dafarn, y gwnaeth un o’r dynion (a oedd yn gwisgo dim ond gwisg nofio) “ddefnyddio byrddau yn y bar fel toiled, gan adael tomen o faw ar ei ôl”.

Mae’r dafarn yn dweud eu bod yn gallu nabod y dynion o luniau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiad, a bod “actor teledu Cymreig poblogaidd” ynghyd â “chwaraewr rygbi proffesiynol” yn eu plith. Mae’r dafarn wedi mynd mor bell ag enwi’r drwgweithredwr, sydd ddim yn adnabyddus, mewn neges newydd.

A heddiw, er bod llythyr ymddiheuriad wedi’i anfon gan y dyn ifanc oedd yn gyfrifol, mae’r dafarn wedi mynd ar Facebook eto i ddweud nad ydi hynny’n ddigon da.

Ymddygiad “ffiaidd”

Mewn neges sy’n enwi’r ymddiheurwr, mae The Dog and Piano yn dweud nad ydi llythyr o ymddiheuriad yn ddigon, wedi i aelodau staff orfod glanhau’r baw, ac i gwsmeriaid eraill gael eu heffeithio gan y digwyddiad.

“Mae angen ymddiheuro i’r Dog and Piano, y staff a fu’n glanhau y baw wedi i chi ei adael ar ddau fwrdd ac ar y llawr,” meddai’r neges ddiweddaraf sy’n siarad yn uniongyrchol gyda’r cwsmer. “Hefyd, mae angen ymddiheuro i’r cwsmeriaid eraill oedd yn y bar ar y pryd,”

Mae golwg360 wedi trio, ac yn dal i geisio cysylltu, â’r dafarn am sylw.

Dyma’r neges wreiddiol, a gafodd ei phostio ar Facebook tua 6yh, nos Lun, Chwefror 5: