Mae angen gwneud rhagor i sicrhau nad yw ffermwyr yn “ddinasyddion eilradd” pan mae’n dod at fynediad i gysylltiad i’r we cyflym, yn ôl undeb ffermwyr.

Yn ôl arolwg gan NFU Cymru, mae dwy ran o dair (67%) o’r ffermwyr a gafodd eu holi yng Nghymru yn dweud nad oes ganddyn nhw fynediad i fand llydan digon cyflym, gyda dim ond 20% yn dweud bod ganddyn nhw gysylltiad digon cryf â’r we.

Roedd yr un arolwg hefyd yn dangos mai dim ond 28% o ffermwyr a oedd yn dweud bod ganddyn nhw signal ffôn digon cryf i allu cynnal y busnes.

“Dim yn ddigon da”

“Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn dangos bod cael mynediad i fand llydan cyflym a signal ffôn yn broblem i ffermwyr Cymru pan mae’n dod at redeg eu busnes yn effeithlon,” meddai John Davies, Llywydd NFU Cymru.

“Mae datblygiadau technolegol a gwelliannau i blatfformau cyfathrebu i fod i ddod â ni i gyd yn agosach at ei gilydd. Ond mae’r dystiolaeth yn dangos bod yna raniad yn datblygu rhwng yr ardaloedd gwledig a’r rhai mwy trefol.

“Pan mae’n dod at fynediad i dechnoleg angenrheidiol, mae’r rheiny ohonom sy’n byw yn nghefn gwlad Cymru yn cael ein trin fel dinasyddion eilradd ar hyn o bryd, a dyw hynny ddim yn ddigon da.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.