Bydd ymchwiliad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad yn edrych ar yr effaith y mae cael babi, a chymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, yn ei gael ar hawliau’r fenyw.

Daw’r ymchwiliad gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ôl i ymchwil yn 2016 ddangos bod 71% o famau yng Nghymru yn dweud eu bod wedi cael “profiadau negyddol a gwahaniaethol” yn y byd gwaith.

Roedd bron hanner y ganran hon o’r farn bod beichiogrwydd wedi effeithio ar gyfleoedd gwaith, statws a sicrwydd swydd.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr o ofal plant yr wythnos ar gyfer rhieni mewn gwaith sydd â phlant 3-4 oed, mae adroddiad o 2015 yn dangos mai ychydig o wahaniaeth byddai hyn yn ei wneud i leihau tlodi a helpu mwy o ferched i gel gwaith.

“Annerbyniol” rhoi merched dan anfantais

“Yn yr oes sydd ohoni mae’n annerbyniol rhoi menyw o dan anfantais a gwahaniaethu yn ei herbyn am fod ganddi blentyn”, meddai John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

“Byddwn yn archwilio’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn trwy ei chynllun gweithredu economaidd a thrwy ei rhaglenni cyflogadwyedd.

“Byddwn hefyd yn ystyried effaith bosibl ei pholisi i gynyddu gofal plant am ddim i 30 awr yr wythnos.

“Mae hwn yn fater personol iawn i lawer o fenywod yng Nghymru ac rydym yn awyddus i gael eu hanes.”