Mae dyn o Gasnewydd a fu’n gwerthu’r cyffur pwerus, Fentanyl, i ddegau o bobol trwy gyfrwng y we, wedi’i ddedfrydu i wyth mlynedd o garchar.

Roedd Kyle Enos, 25 oed, wedi bod yn mewnforio’r cyffur o Tsieina, cyn ei werthu i 168 o bobol yn y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r Unol Daleithiau trwy gyfrwng marchnad ddu y we, rhwng mis Mai 2016 a Mai 2017.

Cafodd ei arestio ym mis Mai y llynedd.

Dywedodd y Barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron Caerdydd fod Fentanyl “25 gwaith” yn fwy pwerus na heroin, a bod o leiaf pedwar o gwsmeriaid Kyle Enos yn y Deyrnas Unedig – dau yng Nghymru – wedi marw ar ôl cymryd y cyffur.

Er nad oedd modd cadarnhau eu bod wedi marw ar ôl cymryd y fentanyl a gafodd ei ddosbarthu gan Kyle Enos, dywedodd y barnwr bod hynny’n “profi pa mor beryglus oedd y cyffur. Roeddech chi’n llawn ymwybodol bod y [cyffur] yn bwerus a’r risg oedd yn gysylltiedig gyda hynny.”

Fe gyfaddefodd Kyle Enos fis Awst y llynedd ei fod wedi bod yn mewnforio, dosbarthu ac allforio Fentanyl.