Mae un o fusnesau mwyaf adnabyddus tre’ Llanbed yng Ngheredigion wedi cau ei drysau am y tro olaf ddydd Sadwrn diwethaf, a hynny ar ôl 60 mlynedd o wasanaeth.

Cafodd y siop fwyd deuluol, J  H Williams, ei sefydlu yn 1958, pan brynodd John Howell a Margaret Williams fusnes a oedd eisoes ar y safle.

Ac ers dros hanner can mlynedd, mae’r busnes wedi bod yng ngofal y meibion, Alun ac Eifion Williams, a’i datblygodd i gynnwys siop lestri, siop nwyddau tŷ a siop bapur wal a phaent hefyd.

Ond er mai dim ond y siop fwyd y mae’r ddau wedi bod yn gyfrifol amdani dros y blynyddoedd diweddaraf, maen nhw wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi ar ôl pendroni “ers tro”.

“Y rheswm ry’n ni’n cau yw oherwydd mae gen i ddau o blant a does dim diddordeb gyda nhw yn y siop, ac ry’n ni’n barod i ymddeol,” meddai’r brawd ieuengaf, Eifion Williams.

“Arferion siopa wedi newid”

Mae’r ddau frawd wedi gweld nifer o newidiadau mewn arferion siopa dros y degawdau, gyda’r newidiadau hynny’n effeithio ar sut mae’r stryd fawr yn Llanbed yn edrych heddiw.

“Pan ddechreuon ni yma yn niwedd y 50au, mi roedd yna, siŵr o fod, pymtheng i ddeunaw o siope yn gwerthu bwyd yn Llanbed,” meddai Eifion Williams eto.

“Ond nawr, fel alla’i  biti bod dweud mai ni yw’r un diwetha’, sy’n siop deulu sy’n gwerthu bwyd, oedd ar ôl ers sawl blwyddyn bellach.

“Yn Llanbed ar y cyfan, o feddwl am y trade yn gyfan gwbl, mae newidiade mawr wedi bod yn y siope…

“Mae lot o siope da’r dre’ wedi cau i lawr, ac mae’r dre wedi mynd yn fwy tawel, a sdim gyment o bobol yn dod o bant achos bod y siope da wedi cau.”