Mae angen cynllun ar Lywodraeth Cymru ar gyfer sefyllfa ‘dim cytundeb’ Brexit, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Yn ôl y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, mae Llywodraeth Cymru wedi ymchwilio i nifer o sefyllfaoedd o ran sut y gallai Brexit effeithio ar Gymru, ond nid ydyn nhw wedi paratoi yn benodol ar gyfer y posibilrwydd o ‘ddim cytundeb’.

Pan gafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford, ei holi am hyn yn ystod sesiwn dystiolaeth, dywedodd na fydd unrhyw swm o arian cyhoeddus na gwaith paratoi yn osgoi’r niwed a fydd yn dod i Gymru.

“Angen paratoi”

“Rydym yn glir, er ein bod yn cytuno gyda Llywodraeth Cymru bod ‘sefyllfa dim cytundeb’ yn annymunol, mae angen gwneud mwy o ran gwaith cynllunio sefyllfaoedd, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ‘dim cytundeb’ o’r fath,” meddai’r Aelod Cynulliad, David Rees, Cadeirydd y pwyllgor.

“Roeddem yn synnu o glywed nad oes unrhyw gynlluniau yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer ‘sefyllfa dim cytundeb’.

“Rydym yn derbyn bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i ddod i gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd, ond nid ydym yn derbyn nad oes unrhyw gynllunio y gellir ei wneud pe byddem yn gadael heb gytundeb.”

“Arweiniad clir”

Clywodd y pwyllgor hefyd y byddai llawer o sectorau cyhoeddus, megis iechyd, addysg uwch, amaeth a busnes, yn teimlo mwy o effaith na sectorau eraill yn sgil Brexit, ac y bydden nhw’n croesawu arweiniad clir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r paratoadau.

“Mae sectorau a sefydliadau’n troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad ac mae’n hanfodol eu bod yn gallu dechrau gwneud eu cynlluniau eu hunain ar gyfer bywyd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi arweiniad cryfach i’r sectorau hyn er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd ar yr un llwybr ar ddiwedd y trafodaethau.”

“Croesawu adroddiad”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r adroddiad, sy’n arbennig o amserol a ninnau newydd gyhoeddi ein papur ynghylch masnachu ar ôl Brexit sy’n cyflawni llawer o argymhellion y pwyllgor.

“Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach â’r pwyllgor a byddwn yn ymateb yn llawn i’r adroddiad maes o law. Rydym wedi dweud erioed y byddai sefyllfa lle nad oedd bargen wedi’i tharo yn ganlyniad echrydus i Gymru ac i’r DU, ac ein blaenoriaeth gyntaf yw gweithio i osgoi hynny.”