Fe fydd pont Ffordd Y Sblot ynghau am dair wythnos wrth i waith cynnal a chadw gael ei gwblhau fel rhan o’r broses o drydaneiddio’r rheilffordd.

Bydd y bont ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng nos Sul (Chwefror 4) a Chwefror 27.

Ond mi fydd ar agor i gerddwyr ac eithrio yn ystod cyfnodau pan fydd bws mini ar gael i deithwyr. Bydd trenau’n cludo teithwyr rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar adegau eraill.

Mae rhybudd i deithwyr wirio trefniadau cyn teithio.