Mae awdurdod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones “yn deilchion”, yn ôl y sylwebydd gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones.

Mae’n destun dau ymchwiliad yn dilyn marwolaeth y cyn-Weinidog Cymunedau Carl Sargeant y llynedd, ac yntau’n wynebu ymchwiliad yn sgil ei ymddygiad rhywiol honedig. Cafwyd hyd iddo’n farw yn ei gartref yng Nghei Connah rai dyddiau ar ôl y cyhoeddiad y byddai ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe fydd un ymchwiliad yn canolbwyntio ar ymddygiad y Prif Weinidog, tra bod y llall yn ymchwilio i honiadau o fwlio o fewn Llywodraeth Cymru.

Fe fydd yr Athro Richard Wyn Jones yn dweud wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: “Mae ei awdurdod yn amlwg yn deilchion. Dw i ddim yn credu bod unrhyw amheuaeth am hynny.

“Ac mewn gwirionedd, wrth ei ailadeiladu, hyd yn oed os yw’n cael ei ryddhau o unrhyw fai – a does gen i ddim gwybodaeth fewnol o gwbl – mae’n bosib y caiff ei ryddhau o unrhyw fai yn llwyr ond hyd yn oed pe bai hynny’n digwydd, dw i’n credu y byddai’n anodd iawn iddo adennill ei statws blaenorol.

“Dw i ddim yn dweud bod hyn yn deg. Dw i ddim yn dweud ei fod yn beth da neu ddrwg.

“Dw i ond yn gwneud y sylw fod ei awdurdod gwleidyddol wedi mynd ar drai, wedi hedfan i ffwrdd, wedi cwympo trwy ei fysedd.”

Diffyg cefnogaeth

Dywed ei fod yn synnu fod cyn lleied o’i gydweithwyr yn fodlon cefnogi’r Prif Weinidog.

“Does gan Carwyn Jones neb yn sefyll o flaen y camera yn ei amddiffyn o. Mae hi bron fel pe bai Carwyn Jones yn hen newyddion i raddau.”

Ychwanega fod y Blaid Lafur fel pe bai wedi dechrau trafod ei olynydd.