Cymru 34–7 Yr Alban

Cafodd Cymru’r dechrau perffaith i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth bwnt bonws yn erbyn yr Alban yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Gareth Davies a Leigh Halfpenny gais yr un yn yr hanner cyntaf cyn i Halfpenny a Steff Evans ychwanegu dau arall wedi’r egwyl i sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.

Dechreuodd Cymru ar dân gyda chais Davies wedi dim ond chwe munud, y mewnwr yn rhyg-gipio ar ei linell deg medr ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio yn y gornel.

Daeth ail gais chwe munud yn ddiweddarach wrth i Halfpenny groesi yn y gornel  dde wedi cyfnod hir o bwyso gan Gymru.

Trosodd y cefnwr ei gais ei hun i ymestyn y fantais i bedwar pwynt ar ddeg ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Rheolodd Cymru’r gêm yn dda yn yr ail gyfnod, yn ymestyn y fantais i ugain pwynt gyda dwy gic gosb gan Halfpenny cyn sgorio dau gais yn y chwarter olaf i gadarnhau’r fuddugoliaeth.

Croesodd Halfpenny am ei ail ef a thrydydd ei dîm ar yr awr wedi dwylo da Steff Evans, a gorffennodd Evans yn dda yn y gornel chwith wedi gwaith da Hadleigh Parkes i sgorio pedwerydd Cymru wyth munud o’r diwedd.

Roedd digon o amser ar ôl i Peter Horne sgorio cais cysur i’r Alban ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Gymru ennill yn gyfforddus.

.

Cymru

Ceisiau: Gareth Davies 6’, Leigh Halfpenny 12’, 61’, Steff Evans 73’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 8’, 13’, 63’, 74’

Ciciau Cosb: LeighHalfpenny 44’ 49’

.

Yr Alban

Cais: Peter Horne 79’

Trosiad: Finn Russell 79’