Mae’r gyfres deledu Dechrau Canu Dechrau Canmol yn ail-ddechrau’r penwythnos yma, ond ar ei newydd wedd.

Bydd wynebau newydd yn cyflwyno’r rhaglen – y dyfarnwr Nigel Owens, y newyddiadurwr Huw Edwards, yr actor a’r canwr Ryland Teifi a’r cyflwynwyr teledu a radio, Lisa Gwilym a Nia Roberts.

Mae Dechrau Canu Dechrau Canmol wedi bod ar sgriniau teledu ers 1961 ac ysbrydolodd y gyfres Saesneg, Songs of Praise, ar y BBC, yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn.

Bydd thema rygbi i raglen gyntaf y gyfres newydd gydag Owain Arwel Hughes yn arwain y canu cynulleidfaol o Eglwys Dewi Sant, Castell-nedd.

Yn ystod y rhaglen, bydd merched y diweddar Ray Gravell, Manon a Gwenan, yn trafod Project 13, sy’n helpu pobl ifanc sy’n delio â galar. A bydd y cyn chwaraewr rhyngwladol, Emyr Lewis, yn trafod y broses o ddarganfod ei ffydd.

Ffydd yn bwysig i Nigel Owens

Yn ôl Nigel Owens, sy’n gwrando ar yr emyn ‘Mor Fawr Wyt Ti’ cyn camu ar y cae, mae ffydd yn “chwarae rhan bwysig” yn ei fywyd.

“Er nad ydw i bellach yn mynd i’r capel, mae gweddïo ar fy mhen fy hun yn fy helpu i gadw’r ffydd,” meddai.

“I fi, mae emynau yn gallu bod mor bwerus ac mae geiriau a thôn ‘Mor Fawr Wyt Ti’ mor arbennig. Bydda i’n gwrando ar yr emyn yn aml cyn dyfarnu gêm ac mae’n gwneud i mi ymlacio a chanolbwyntio gymaint yn well.”

Bydd y gyfres newydd yn dechrau nos Sul, 4 Chwefror am 7 o’r gloch ar S4C.