Mae Cyngor Abertawe yn ystyried codi tâl ar athrawon am gael parcio yn yr ysgolion lle maen nhw’n dysgu.

Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar y cynnig, a’r gred yw y bydd ysgolion unigol yn gallu penderfynu cyflwyno’r ffioedd neu beidio.

Yn ôl Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) mae’n “annheg” gofyn i athrawon dalu am eu lle parcio a gallai niweidio’r berthynas rhwng penaethiaid ac athrawon.

Mae’r Cyngor yn pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi’i wneud eto.

“Rydym ni’n gwrthwynebu yn chwyrn, a hynny ar sawl lefel,” meddai Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC wrth golwg360.

“Un ar lefel o egwyddor achos mae’n ffioedd cwbl newydd ar weithlu sydd wedi cael eu cyflogau wedi’u rhewi neu wedi’u capio ers saith mlynedd nawr. Felly mae’n teimlo’n hollol annheg ar y sail yna.

“Ond hefyd ar sail ymarferol, os mai’r bwriad yw annog pobol i ddefnyddio cludiant cyhoeddus, mae athrawon yn cario llwythi trwm iawn nôl a ‘mlaen o’r ysgol bob dydd ac mae’n anodd dychmygu nhw yn cario llond dosbarth neu fwy o lyfrau ar gludiant cyhoeddus bob dydd.

“Does yna ddim manylion eto ar sut y byddai hyn yn cael ei weithredu ond rydyn ni’n poeni y gallai fe olygu llwyth gwaith ychwanegol i benaethiaid os oes disgwyl iddyn nhw gasglu ffioedd a dosbarthu trwyddedau.”

“Niweidio perthynas penaethiaid ac athrawon”

Er bod UCAC yn cydnabod bod ysgolion a chynghorau sir dan bwysau ariannol “difrifol”, bydd yr arian o’r ffioedd parcio ddim yn gwneud llawer o wahaniaeth i’r sefyllfa, yn ôl Rebecca Williams.

Mae pryder gan UCAC hefyd y gallai roi penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion mewn sefyllfa anodd a niweidio perthnasau.

“Licien i weld ffigurau Abertawe o ran faint o arian maen nhw’n tybio fydde’n dod mewn drwy gynllun fel hyn, mewn perthynas ag unrhyw gostau ariannol o’i gyflwyno fe.

“Ond yn bwysicach fyth, mewn perthynas â chostau o ran colli ewyllys da gweithlu sy’n rhoi oriau maith o amser ychwanegol mewn i bethau fel clybiau ar ôl ysgol, heb sôn am waith marcio a pharatoi. Dw i’n credu gallai fe wirioneddol niweidio’r berthynas rhwng yr awdurdod a’r gweithlu addysg.

“Ond os ydyn nhw’n gofyn iddo fe ddigwydd ar lefel ysgolion yn unigol, mi allai fe fod yn niweidiol i’r berthynas rhwng staff llawr dosbarth a’r penaethiaid a’r cyrff llywodraethu. Dw i’n credu bod e’n rhoi nhw mewn sefyllfa hollol annerbyniol.

“Bydden i’n meddwl bod yr enillion yn fach, gallwn i ddim dychmygu bod e’n fwy nag ychydig o gannoedd y flwyddyn, lle mae beth sydd angen ar ysgolion yw miloedd.”

Bydd UCAC, ynghyd ag undebau eraill yn trafod y mater gyda Chyngor Abertawe fore Mawrth nesaf mewn cyfarfod yng Nghanolfan Ddinesig y ddinas.

Y cyngor angen arbed £20m

Dywedodd llefarydd Cyngor Dinas Abertawe: “Oherwydd caledi parhaus, mae’r arian rydym yn ei dderbyn gan lywodraeth wedi’i dorri eto mewn termau go-iawn ac mae’n rhaid i ni ddod o hyd i fwy nag £20m o arbedion y flwyddyn nesaf. Felly rydym yn wynebu penderfyniadau anodd iawn.

“Fel rhan o’n hymgynghoriad cyllidebol ehangach, gofynnwyd i ysgolion, athrawon a’u hundebau am eu barn ynghylch cyflwyno ffi resymol ar gyfer parcio ar y safle a fydd yn unol â llawer o weithwyr eraill y cyngor.

“Roedd y cynnig yn esbonio y byddai’r holl arian a godir yn cael ei gadw gan yr ysgolion unigol a byddai’r ffïoedd ar raddfa symudol sy’n ddibynnol ar incwm er mwyn amddiffyn staff ar dâl is.

“Nid oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud. Bydd pob barn yn cael ei hystyried pan fydd y cynigion cyllidebol terfynol yn cael eu paratoi dros y diwrnodau nesaf, ond mae’r Cabinet yn ymwybodol o’r teimladau cryf ynghylch y cynnig hwn.

“Er gwaethaf y sefyllfa ariannol heriol dros ben, bydd cynigion y Cabinet yn cynnwys cynnydd n y cyllid ar gyfer addysg o fwy na £3m dros y flwyddyn nesaf, yn ogystal â buddsoddiad cyfalaf gwerth oddeutu £150m mewn ysgolion a chyfleusterau newydd dros y blynyddoedd nesaf.”