Fe fydd dyn o Gaerdydd, a gafwyd yn euog ddoe o lofruddiaeth ac o geisio llofruddio, yn treulio o leiaf 43 o flynyddoedd dan glo.

Fe gafodd Darren Osborne ei ddedfrydu i Oes o Garchar yn Llys y Goron Woolwich heddiw.

Yn wreiddiol o Somerset yn Lloegr, roedd wedi gyrru ei fan i ganol torf o Fwslimiaid yn Llundain y llynedd.

Awr yn unig gymrodd hi i’r rheithgor o wyth menyw a phedwar dyn i gael Darren Osborne, 48, yn euog o’r ddau gyhuddiad, yn dilyn y digwyddiad o flaen mosg yn Finsbury Park ar Fehefin 19, 2017.

Roedd y tad i bedwar wedi gwadu’r ddau gyhuddiad yn ei erbyn.

Clywodd y llys bod gan Darren Osborne “obsesiwn” gyda Mwslimiaid.