Mae cant o forloi wedi cael eu hachub o draethau gorllewin Cymru ers mis Medi, yn ôl elusen.

Cafodd y morlo diweddaraf ei achub o Fae Cas-wellt, Abertawe, ddydd Mawrth (Ionawr 30), wedi i aelod o’r cyhoedd ddod o hyd iddo yn crynu ar y traeth.

Tros y misoedd diwethaf mae elusen RSPCA wedi achub morloi ledled yr arfordir, ac wedi rhyddhau degau o’r creaduriaid yn ôl i’r gwyllt.

Ym mis Tachwedd y llynedd, aeth un morlo yn sownd rhwng cerrig trymion ger Aberafan a bu sawl sefydliad wrthi’n ceisio achub y creadur. Bellach mae’r morlo hwnnw yn ddiogel.

“Creaduriaid hardd”

“Rydym wedi gorfod cyfeirio llawer o’n hymgyrch tuag at achub, a rhyddhau’r creaduriaid hardd yma,” meddai swyddog o’r RSPCA, Ellie West.

Mae’r elusen yn rhybuddio’r cyhoedd i gadw pellter rhag morloi mewn perygl, cyn cysylltu â’r RSPCA.