Mae tai Abertawe ymysg y mwyaf fforddiadwy yng ngwledydd Prydain, yn ôl adroddiad newydd.

Mae’r adroddiad gan fanc Lloyds yn dangos bod prisiau tai mewn dinasoedd bellach ar eu lefelau lleiaf fforddiadwy ers degawd.

Yn 2012 roedd tŷ mewn dinas yn costio, ar gyfartaledd, rhyw 5.6 gwaith cyflog cyffredin, ond bellach mae tai dinesig yn costio rhyw saith gwaith y ffigwr yma.

Rhydychen yw’r ddinas leiaf fforddiadwy (neu’r drutaf) yn ôl yr arolwg, gyda phrisiau tai yn 11 gwaith cyflog cyffredin. Dinas Stirling sydd â’r tai mwyaf fforddiadwy (rhataf) â phrisiau tua thair gwaith cyflog gyffredin.

“Mae byw mewn dinas yn ddewis da i bobol sydd eisiau treulio llai o amser yn teithio i’w swyddi,” meddai Andy Mason, cyfarwyddwr banc Lloyds.

“Ond, bellach, mae tai mewn dinasoedd ar ei lefel lleiaf fforddiadwy ers degawd.”

Y dinasoedd mwyaf fforddiadwy

Stirling

Derry

Bradford

Caerhirfryn

Durham

Belffast, a Sunderland a Lisburn

Dundee, Abertawe a Perth