Mae un o weinidogion Lloegr yn dod i Gaerdydd heddiw i ddweud wrth Lywodraethau Cymru a’r Alban bod angen iddyn nhw gydweithio gyda Llywodraeth San Steffan tros Brexit.

Fe fydd David Lidington, y Gweinidog Cabinet, yn gobeithio torri dadl tros ddatganoli sy’n bygwth dyfodol y trefniadau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r ddwy lywodraeth arall yn dal i gyhuddo San Steffan o geisio “dwyn grym” oddi ar seneddau Cymru a’r Alban.

‘Gyda’n gilydd’

“Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ffordd gytûn ymlaen,” meddai David Lidington, gan ddweud ei fod yn “edrych ymlaen at y cyfarfod”.

Mae Ysgrifennydd yr Alban hefyd wedi dweud eu bod eisiau dod o hyd i gyfaddawd i ddatrys y ddadl sy’n bygwth dyfodol Mesur Gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd David Lidington yn cwrdd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney, yn ogystal â’r ddau Ysgrifennydd Gwladol.

‘Torri addewid’

Yn ôl llywodraethau Cymru a’r Alban, fe fyddai’r mesur yn rhoi pwerau Ewropeaidd yn nwylo Llywodraeth Prydain, er eu bod yn ymwneud â materion sydd wedi eu datganoli.

Maen nhw’n mynnu bod Llywodraeth Prydain wedi gwrthod cynigion i newid y mesur ac wedi methu â chadw at addewid i gynnig eu gwelliannau eu hunain.

Dadl y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yw fod angen mesur fel hyn i ddod â phwerau’n ôl i wledydd Prydain er mwyn eu datganoli wedyn.