Mae enw’r olaf o’r chwech o blant a fu farw mewn tân yn Llangamarch y llynedd, wedi’i gyhoeddi.
Daeth cadarnhad o enw Gypsy Grey Raine y prynhawn yma. Cafodd hi ei hadnabod gan ddefnyddio cofnodion deintyddol ac archwiliad o’i sgerbwd.
Bu farw’r ferch bedair oed yn y tân ynghyd â phedwar o blant eraill a dyn 68 oed, David Cuthbertson, ar Hydref 30 y llynedd.
Enwau’r plant eraill oedd Just Raine (11), Reef Raine (10), Misty Raine (naw) a Patch Raine (chwech). Bu’n rhaid eu hadnabod nhw a’u tad gan ddefnyddio DNA.
Llwyddodd tri o blant i ddianc cyn i’r adeilad gael ei ddymchwel gan y tân.
Mae cwest i farwolaethau’r chwech wedi’i agor yn Aberdâr a’i ohirio ar ôl i’r heddlu ddweud bod ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.
Fe fydd adolygiad yn cael ei gynnal yn Y Trallwng cyn i’r cwest barhau ar Ebrill 6.