Fe allai dyfodol safle prosesu cig yn Nyffryn Aeron fod yn y fantol, wrth i gwmni lladd-dy Dunbia baratoi i symud swyddi o Felin-fach i Lanybydder.

Mae yna bryderon wedi bod ynglyn â swyddi ar y ddau safle, ond mae golwg360 yn deall y gallai swyddi gael eu diogelu trwy symud gwaith o’r naill le i’r llall.

Mae cyfarfodydd cyfrinachol wedi’u cynnal yn ddiweddar gyda gwleidyddion lleol, wedi i Dunbia uno gyda’r cwmni Dawn Meats yn Crosshands. A’r ofn mwyaf oedd y byddai swyddi’n gorfod mynd yn sgil yr uno.

Cwmni Dunbia yw prosesydd cig oen mwyaf gwledydd Prydain – yn cyflogi 615 o bobol ar y safle yn Llanybydder a 176 o bobol yn Felin-fach – safle a gafodd ei agor yn sgil grant o £2m gan Lywodraeth Cymru.

Mae golwg360 hefyd yn deall na fyddai angen i’r cwmni ad-dalu’r grant hwnnw pe bai un o’i safleoedd yn cau.