Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn chwilio am gyfarwyddwr i bencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin – gyda’r dyddiad cau ymhen ychydig dros wythnos.

Yn ôl y swydd ddisgrifiad, fe fydd Cyfarwyddwr Canolfan Yr Egin yn gyfrifol am “lwyddiant masnachol a chreadigol” y lle, a fydd nid yn unig yn bencadlys newydd i’r sianel Gymraeg, ond hefyd yn gartref i “hwb creadigol a digidol” y brifysgol ac yn cynnig unedau ar gyfer cwmnïau masnachol.

Mae’r disgriaf yn nodi hefyd fod y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg yn “hanfodol”, wrth i’r cyfarwyddwr weithredu fel “llysgennad cyhoeddus” y ganolfan.

Mae’r cyflog sy’n cael ei gynnig rywle rhwng £41,212 a £49,148 y flwyddyn, gyda’r cytundeb gwaith yn para am ddwy flynedd, gyda phosibilrwydd o estyniad wedi’r cyfnod hwnnw.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Gwener, Chwefror 9.