“Creu ethos fwy Cymraeg yn Nhywyn” yw nod noson arbennig sy’n cael ei chynnal yn ne Gwynedd heno.

Mae Ysgol Uwchradd Tywyn yn un o ddwy ysgol – Ysgol Caergybi yw’r llall – sydd yn rhan o brosiect peilot i hyrwyddo targed Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ond mae’r ysgol yn cydnabod mai’r “frwydr fawr” yw hybu defnydd y Gymraeg tu allan i’r ysgol, a thrwy gynnal digwyddiad maen nhw’n gobeithio sicrhau bydd y gymuned oll “ynghlwm â’r prosiect”.

“Be rydan ni eisio ydi i’r gymuned fynd gyda ni ar y siwrne yma i gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050,” meddai Helen Schofield, cydlynydd digwyddiad heno.

“Dydi sefyllfa’r Gymraeg o’n cwmpas ddim [o reidrwydd] wedi gwaethygu, ond os fydd y gymuned yn ochri â ni, gall y sefyllfa fod yn lot gwell.”

Rhwng cyfrifiad 2001 a 2011, fe gwympodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn Nhywyn o 40.5% o’r boblogaeth i 37.5%. Eleni mae 14.5% o ddisgyblion Ysgol Uwchradd Tywyn o gartrefi Cymraeg.

Meddwl am 2050…

Bydd ‘Noson Rhannu Gweledigaeth Gymraeg 2050’ yn cael ei chynnal yn Neuadd Gymunedol Tywyn rhwng 5.30yp a 7.30yh.

Mae’r ysgol eisoes wedi cynnal sesiynau gloywi iaith i athrawon dan arweinyddiaeth y gyflwynwraig, Bethan Gwanas, ac wedi cael ymweliadau gan gwmni theatr Frân Wen.

Fe fydd yr Athro Mererid Hopwood yn rhoi cyflwyniad ar ymwybyddiaeth iaith, ac mae disgwyl perfformiad gan Côr Meibion Dysynni – côr o ugain o leisiau sy’n cynnwys dwsin o ddysgwyr.