“Gwella iechyd a lles” tenantiaid yw nod Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr newydd cymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Fe fydd cyn-Bennaeth gwasanaethau tai Cyngor Sir Ynys Môn, yn olynu Walis George, sydd yn ymddeol wedi 25 mlynedd wrth y llyw.

Yn ogystal â chynorthwyo ei thenantiaid, mae hefyd yn dweud y bydd yn gweithio’n agosach gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu lleddfu’r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r bwrdd a’r tîm arweinyddiaeth i gyflwyno’r cynllun corfforaethol, a gwneud gwir wahaniaeth i fywydau trigolion a chymunedau ar draws gogledd Cymru,” meddai Shan Lloyd Williams.

Mae Grŵp Cynefin yn gweithredu yn chwe sir gogledd Cymru a gogledd Powys, ac yn darparu dros 4,500 o gartrefi i deuluoedd ac unigolion ar draws y rhanbarth.

Cefndir

Dechreuodd Shan Lloyd Williams ei gyrfa gyda Banc y Midland ym Mhwllheli a Chaernarfon, cyn dechrau gweithio yn Gofal Golwg Gwynedd fel eu Uwch Swyddog Adsefydlu.

Wedi hyn aeth ati i sefydlu’r swyddfa gofrestredig gyntaf i Gofal a Thrwsio Cymru yn y gogledd.

Mae hefyd wedi gweithio fel rheolwr perfformiad i wasanaethau cymdeithasol a thai Cyngor Sir Ynys Môn; a gyda Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd fel cydlynydd iechyd, gofal cymdeithasol a lles.

Enillodd Radd Feistr mewn Economeg ym maes rheoli o Goleg Prifysgol Cymru, Casnewydd.