Mae Cyngor Gwynedd wedi eu cyhuddo o “amharchu” nawddsant Cymru trwy drefnu bod cyfarfod llawn yn cael ei gynnal ar Fawrth 1.

Yn ôl Cynghorydd Tremadog, Alwyn Gruffydd, bydd y penderfyniad yn rhoi cynghorwyr “mewn sefyllfa anodd” gan eu rhwystro rhag cymryd rhan mewn gorymdeithiau Gŵyl Ddewi yn eu cymunedau.

Mae’r Cynghorydd Llais Gwynedd wedi  galw ar Gyngor Gwynedd i ail drefnu dyddiad y cyfarfod er mwyn caniatáu i weithgareddau Dydd Gŵyl Ddewi fynd yn eu blaenau’n “ddi-rwystr”.

Yn ôl Cyngor Gwynedd doedd dim un cynghorydd wedi cwyno am ddyddiad y cyfarfod pan gafodd ei gynnig ar Fai 18 y llynedd.

Mae llefarydd ar ran y Cyngor hefyd wedi dweud eu bod yn “gwbl gefnogol i’r ymgyrch i godi statws Dydd Gŵyl Dewi a bydd cyfle teilwng yn ystod cyfarfod y Cyngor Llawn i ddathlu’r achlysur.”

 “Cywilydd”                                                                              

“Mae pawb yn gwybod fod Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth 1 bob blwyddyn ond am ryw reswm tu hwnt i’m dirnadaeth mae arweinwyr Cyngor Gwynedd wedi penderfynu anwybyddu’r dyddiad pwysig yma yn y calendr cenedlaethol,” meddai Alwyn Gruffydd.

“Mi ddylai fod  cywilydd arnynt am eu diffyg parch … Tra bo gwledydd  eraill yn gwneud y mwyaf o’u cenedligrwydd ar Ddydd eu Nawddsant mae Cyngor yng Nghymru sy’n cael ei reoli gan Blaid Cymru wedi anghofio ein Nawddsant ni.

“Neges fawr Dewi Sant oedd ar i’w ddilynwyr wneud y pethau bychain mewn bywyd. Rhywsut mae’n amlwg nad yw Cyngor Gwynedd wedi’i gweld hi.”

Dim cofnod

“Mae dyddiadau posib ar gyfer pob prif gyfarfod am y flwyddyn i ddod, gan gynnwys cyfarfodydd y Cyngor llawn, yn cael eu cyflwyno i holl gynghorwyr y sir mewn cyfarfod o’r Cyngor yn flynyddol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd.

“Fe gafodd dyddiadau arfaethedig ar gyfer y cyfnod Mai 2017 i Mai 2018 eu cyflwyno i gynghorwyr ar 18 Mai 2017 gyda’r dyddiadau yn cael eu cymeradwyo heb unrhyw wrthwynebiad.

“Nid oes cofnod fod unrhyw gynghorydd wedi mynegi pryder neu gynnig gwelliant am y ffaith fod un o’r pedwar cyfarfod Cyngor llawn yn disgyn ar Ddydd Gŵyl Dewi yn 2018.”