Fe fydd yr Aelod Seneddol dros Dde Clwyd, Susan Elan Jones, yn arwain dadl yn y Senedd heddiw yn galw am gyfyngu ar werthiant a’r defnydd o dân gwyllt.

Mae RSPCA Cymru wedi galw am yr angen i gyfyngu’r defnydd o dân gwyllt yn ystod y flwyddyn, a hynny er lles anifeiliaid.

Yn ôl ffigyrau, mae tua 45% o gŵn yn y Deyrnas Unedig yn arddangos arwyddion o ofn a gofid pan maen nhw’n clywed tân gwyllt.

Ac yn ôl RSPCA Cymru, fe fydd cyfyngu’r defnydd o rocedi i ddyddiau penodol – megis Tachwedd 5, Nos Galan, y flwyddyn Tsieineaidd newydd a Diwali – yn “newyddion da” i anifeiliaid.

Maen nhw hefyd yn credu y bydd lleihau’r sŵn mae tân gwyllt yn ei wneud, ynghyd ag addysgu’r cyhoedd am arddangosfeydd sy’n cael eu trwyddedu, yn gymorth i amddiffyn anifeiliaid.

Mae dadl ar y rheolau sy’n ymwneud â thân gwyllt yn cael ei chynnal yn San Steffan heddiw, a hynny yn dilyn deiseb a oedd yn cynnwys dros 100,000 o lofnodion.

Mae’r ddadl yn cael ei harwain gan yr AS Susan Elan Jones.

“Dadl bwysig”

“Mae tân gwyllt yn creu pryderon difrifol am les nifer o anifeiliaid, felly rydym ni’n croesawu’r ddadl bwysig hon”, meddai Lisa Hens, llefarydd ar ran y RSPCA.

“Mae anifeiliaid sy’n cael eu heffeithio gan dân gwyllt nid yn unig yn dioddef o ofid seicolegol, ond fe allen nhw hefyd gael anafiadau – a’r rheiny’n rhai difrifol ar adegau – wrth iddyn nhw geisio dianc neu guddio rhag y sŵn.

“Mae’r RSPCA yn cefnogi’n llwyr y galwadau i gyfyngu’r defnydd o dân gwyllt i’r cyhoeddi i ddyddiadau traddodiadol penodol yn y calendr.”