Bydd  Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn bresennol mewn gwasanaeth arbennig sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd i goffau dioddefwyr yr Holocost ac achosion eraill o hil laddiad ledled y byd.

Ymysg unigolion fydd yn cyfrannu at y digwyddiad mae’r Foneddiges Milena Grenfell-Baines MBE, oedd yn blentyn pan gafodd ei hachub o’r Holocost yn 1939.

Y Parchedig Ganon, Stewart Lisk, fydd yn arwain y gwasanaeth, ac mae disgwyl bydd cynrychiolwyr o sefydliadau gan gynnwys Race Equality First a Chyngor Rhyng-ffydd Cymru, yn bresennol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar ddydd Llun (Ionawr 29), dan nawdd y Prif Weinidog ac Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas.

“Dinas groesawgar”

“Mae Caerdydd yn ymfalchïo yn ei thraddodiad o fod yn ddinas groesawgar, sy’n agored i bobl o bob ffydd a phob hil,” meddai Huw Thomas.

“Mae’n bwysig i ni gofio’r rhai a fu farw dan y Natsïaid yn yr Holocost, ac wrth gwrs yr achosion eraill o hil-laddiad sydd wedi digwydd ar draws y byd.”