Mae’r actores o Gwm Tawe, y Fonesig Siân Phillips wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Oes yng Ngwobrau Drama Glywedol y BBC.

Dechreuodd gyrfa’r actores 84 oed yn 1944 – ac mae hi wedi perfformio ar lwyfannau yn nramâu Ibsen, John le Carre a The Archers.

Dywedodd ei bod yn “anodd cyfrifo’r ddyled” sydd arni i’r Gorfforaeth.

“Ces i fy mhrofiadau proffesiynol mwyaf eithafol rhwng 11 a 19 oed yn stiwdios BBC Cymru yn Park Place yng Nghaerdydd lle ces i fy ngwthio, fy nhynnu, fy nghymell, fy annog a chael fy nhynnu i lawr ryw fymryn mewn amrywiaeth o swyddi’n ymwneud ag actio.”

Dywedodd nad oes yna “unrhyw beth yn cymharu â’r profiad, yn nyddiau radio byw, o gyrraedd uchelfannau drama i oedolion am y tro cyntaf a chlywed y cyhoeddwr yn Llundain yn dweud “This is the BBC Home Service. Saturda Night Theatre.”