Mae dyn 27 oed wedi’i arestio yn ardal Crosshands yn Sir Gâr ar amheuaeth o annog plentyn dan 16 oed i gwblhau gweithred ryw.

Mae hefyd wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus yn dilyn adroddiadau y prynhawn yma fod tri char wedi cael eu difrodi gan yrrwr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.