Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod corff dyn 90 oed wedi cael ei ddarganfod mewn eiddo ym Maesteg.

Cawson nhw eu galw am 12.40pm, ac roedd heddlu arfog ar Ffordd Pen-y-bont yn ardal Garth yn ystod y prynhawn, a’r heddlu’n dweud mai “rhagofal” oedd hynny.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Does dim lle i gredu ar hyn o bryd bod amgylchiadau amheus.