Cafodd cynhyrchiad o Wythnos yng Nghymru Fydd wobr am y cynhyrchiad gorau yn y Gymraeg nos Sadwrn (Ionawr 27) wrth i Wobrau Theatr Cymru gael eu cynnal yng Nghasnewydd.

Cafodd y cynhyrchiad, a luniwyd gan Gareth Glyn a Mererid Hopwood yn seiliedig ar nofel Islwyn Ffowc Elis, ei lwyfannu ar y cyd gan Opra Cymru, Prifysgol Bangor, Pontio, Ensemble Cymru a Young Films.

Aeth y wobr am y berfformwraig orau yn y Gymraeg i Caryl Morgan am ei rhan yn Yfory gan Theatr Bara Caws, a’r awdur Sion Eirian yn cipio’r wobr am y dramodydd gorau.

Enillydd y wobr am y perfformiwr Cymraeg gorau oedd Richard Lynch am ei berfformiad yn Macbeth.

Sieiloc, sioe ar sail The Merchant of Venice, gipiodd y wobr am y cynhyrchiad teithiol gorau yn y Gymraeg.

Aeth y wobr am y sioe orau i blant a phobol ifanc i Mwgsi gan Gwmni’r Frân Wen, a’r sioe honno’n adrodd hanes person ifanc unig ac enwog sy’n dioddef o ganser.

Aeth gwobr hefyd i ddylunwyr Cwmni Theatr Arad Goch am eu gwaith ar gynhyrchiad o Gwledd Gwyddno yn Aberystwyth.

Boicot

Yn ôl adroddiadau’r BBC, roedd staff National Theatre Wales yn absennol o’r noson oherwydd eu bod yn anhapus fod diffyg amrywiaeth o fewn y diwydiant o hyd.

Mae criw o actorion a chynhyrchwyr wedi cefnogi llythyr agored yn beirniadu’r gwobrau, gyda honiadau bod actorion gwyn yn chwarae rhan cymeriadau o ethnigrwydd gwahanol.

Ond mae trefnwyr y gwobrau wedi amddiffyn yr adolygwyr oedd wedi llunio’r rhestrau byrion.

Y canlyniadau yn llawn:

Dylunio a/neu Gwisgoedd Gorau: Buddug James Jones & Anneliese Mowbray, Gwledd Gwyddno, Cwmni Theatr Arad Goch

Cyfarwyddwr Gorau: Tamara Harvey, Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatres

Goleuo Gorau: Joe Fletcher, Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

Sain Gorau: Lucy Rivers, Sinners Club, Gagglebabble, Theatr Clwyd & The Other Room

Ensemble Gorau: Tiger Bay, Canolfan Mileniwm Cymru ar y cyd â Cape Town Opera

Coreograffydd Gorau: Marcos Morau, Tundra, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Artist Dawns Gorau – Menyw: Anna Pujol, The Light Princess, Ballet Cymru, Catrin Finch a Glan yr Afon – cyd-gynhyrchiad

Artist Dawns Gorau – Gwryw: Ed Myhill, Animatorium, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Cynhyrchiad Dawns Gorau: Shadow Aspect, Ballet Cymru

Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg: Wythnos yng Nghymru Fydd, Opra Cymru, Prifysgol Bangor, Pontio, Ensemble Cymru & Young Films – cyd-gynhyrchiad

Perfformiad Gorau yn yr iaith Gymraeg – Gwryw: Richard Lynch, Macbeth, Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

Perfformiad Gorau yn yr iaith Gymraeg – Benyw: Caryl Morgan, Yfory, Theatr Bara Caws

Perfformiad Gorau mewn cynhyrchiad opera – Gwryw: Simon Bailey, From the House of the Dead, Opera Cenedlaethol Cymru

Cynhyrchiad Opera Gorau: Le Vin herbé, Opera Cenedlaethol Cymru

Perfformiad Gorau mewn cynhyrchiad opera – Benyw:  Natalya Romaniw, Eugene Onegin, Opera Cenedlaethol Cymru

Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Saesneg: Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatre

Perfformiad Gorau yn yr iaith Saesneg – Benyw: Rosie Sheehy, Uncle Vanya, Theatr Clwyd & Sheffield Theatres

Perfformiad Gorau yn yr iaith Saesneg – Gwryw: Sion Daniel Young, Killology, Theatr y Sherman & Royal Court Theatre – cyd-gynhyrchiad

Dramodydd Gorau yn yr iaith Saesneg: Gary Owen, Killology, Theatr y Sherman & Royal Court Theatre – cyd-gynhyrchiad

Dramodydd Gorau yn yr iaith Gymraeg: Siôn Eirian, Yfory, Theatr Bara Caws

Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn yr iaith Gymraeg: Sieiloc, Rhodri Miles

Cynhyrchiad Teithiol Gorau yn yr iaith Saesneg: How To Win Against History, Àine Flanagan Productions, Seiriol Davies & y Young Vic, cefnogwyd y daith yng Nghymru gan Pontio

Y Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobol Ifanc yn yr iaith Gymraeg: Mwgsi, Cwmni’r Frân Wen

Y Sioe Orau ar gyfer Plan a Phobol Ifanc yn yr iaith Saesneg: Eye of the Storm, Theatr na nÓg mewn cysylltiad â Chanolfan Celfyddydau Taliesin

Cymru a’r Byd: Daniel Llewelyn-Williams, A Regular Little Houdini

Llwyddiant Arbennig: Godfrey Evans