Er iddo golli pleidlais i gynnal dadansoddiad annibynnol o fwd fydd yn cael ei gludo o safle atomfa niwclear yn Lloegr i Gymru, mae Neil McEvoy yn parhau i bryderu am y sefyllfa.

Neithiwr fe bleidleisiodd Cyngor Caerdydd yn erbyn cael dadansoddiad annibynnol o’r mwd fydd yn cael ei gludo o safle atomfa niwclear Hinkley Point.

Mae’r cwmni sy’n gyfrifol am y prosiect EDF (Électricité de France) yn dadlau bod dadansoddiadau eisoes wedi profi nad yw’r mwd â lefelau peryglus o ymbelydredd.

Ond mae “anghysondebau” yn y dystiolaeth sydd wedi ei ddarparu i gyfiawnhau dympio tunelli o fwd ymbelydrol ym Mae Caerdydd, yn ôl Neil McEvoy sy’n Aelod Cynulliad ac hefyd yn un o gynghorwyr Cyngor Caerdydd.

Mae Neil McEvoy yn dadlau bod anghysondeb yn “methodoleg” profion sydd eisoes wedi’u cynnal ar y deunydd yma ac yn dadlau bod y sefyllfa yn “draed moch llwyr”.

“Dydyn nhw ddim wedi cynnal gwyriad diogelwch. Dim ond pum sampl dan bum centimedr sydd wedi’u cynnal dros [y mwd],” meddai wrth golwg360.

“Dyna lefel bach iawn o ymchwilio. Ac mae yna anghysondebau yn y ffigyrau, a dydyn nhw ddim wedi gweithio allan lefel y dos [o ymbelydredd].”