Mae un person wedi marw ac un arall wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Abertawe nos Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, yn ymwneud a char Ford KA, ar ochr ddwyreiniol y draffordd rhwng cyffordd 46 yn Llangyfelach a chyffordd 45  ger Ynysforgan am 7.10yh nos Iau, 25 Ionawr.

Bu farw’r person oedd yn teithio yn sedd flaen y car a chafodd y gyrrwr ei gludo i Ysbyty Treforys am driniaeth.

Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad neu’r modd yr oedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Dylai llygad-dystion gysylltu â’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod 1800030617.