Mae Dydd Santes Dwynwen yn ddiwrnod arbennig i gariadon Cymru – ond mae hyd yn oed yn fwy arbennig i un pâr o Geredigion.

Mae Siôn a Rhiannon Tansley yn rhedeg y cwmni, Swshi, o’u cartref yn Llwynygroes, ger Tregaron, lle maen nhw’n paratoi a gwerthu’r bwyd Siapaneaidd mewn gwyliau bwyd ledled Cymru.

Ac union wyth mlynedd yn ôl fe benderfynodd y ddau ddyweddïo ar ôl cwrdd fel myfyrwyr yn y Coleg Cerdd a Drama, Prifysgol Caerdydd.

“Wyth mynedd yn ôl, penderfynes i ofyn i Rhiannon briodi fi, ac fe ddywedodd hi ‘ie’,” meddai Siôn Tansley, sy’n wreiddiol o Eglwys-fach, ger Machynlleth.

“Cerddon ni lan o Gaerdydd i Gastell Coch – roedd hi’n meddwl bo ni jyst yn mynd am wâc – ac fe ofynnes i’r cwestiwn iddi.

“Fe wnaethom ni briodi saith mlynedd yn ôl, ar Ionawr 6.”

“Diwrnod cariad Cymraeg”

Mae Siôn Tansley yn dweud iddo wneud y penderfyniad i ofyn iddi ar Ddydd Santes Dwynwen oherwydd ei fod yn ychwanegu at y “rhamant”.

“Mae Valentine’s Day bach yn cheesy,” meddai eto, “ac ro’n i’n meddwl ei fod e bach yn fwy classy i’w wneud e ar ddydd Santes Dwynwen, gan fod y ddau o ni’n Gymraeg.”

Ac mae’r ddau’n dal i ddathlu’r diwrnod bob blwyddyn, a hynny am resymau hyd yn oed fwy arbennig erbyn hyn…

“Mae pen-blwydd merch ni ar ddydd Santes Dwynwen hefyd, sef Ellie. Mae’n bump oed heddiw, felly r’yn ni’n dathlu bob blwyddyn.”