Mae cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Lanelli yn dweud iddi ddioddef “bygythiadau a honiadau garw” wedi iddi arwyddo deiseb ar-lein yn cefnogi penderfyniad Grwp Aelodau’r Cynulliad i wahardd yn barhaol Neil McEvoy.

Mae Helen Mary Jones hefyd yn dweud ei bod “wedi cael digon” ar gael pobol yn galw ar iddi gael ei diarddel o’r blaid, ac o glywed pobol yn ailadrodd sïon am “gynllwyn” yn erbyn Neil McEvoy gan ferched amlwg sy’n arwain Plaid Cymru ym Mae Caerdydd.

Mewn ymateb i gwestiynau gan golwg360 heddiw, mae Helen Mary Jones yn gwbwl glir ei bod yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ond mae’n dweud hefyd fod yna “ddigon o le i bob math o bobol” o fewn y blaid.

Ar wahân i hynny, meddai, does ganddi “ddim sylw pellach” i’w wneud ar y mater.

Ond, yn gynnar neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 23) ar wefan Facebook, roedd hi’n blaen iawn ei thafod am yr holl fater, ac fe bostiodd neges hir yn Saesneg yn awgrymu y byddai’n fodlon dwyn achosion yn erbyn pobol fyddai’n dal ati i wneud honiadau di-sail amdani.

Bwrw’i bol ar Facebook 

Mae’r neges yn agor trwy gyfeirio at y ffaith iddi lofnodi deiseb yn cefnogi penderfyniad Grŵp Plaid Cymru i wahardd yn barhol yr Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, Neil McEvoy.

Mae Helen Mary Jones yn dweud fod y ddeiseb “wedi cael ei rhannu’n awtomatig” â’i ffrindiau ar y wefan gymdeithasol ar ôl iddi hi ei llofnodi, ond mae’n pwysleisio nad y hi oedd hi wedi “creu” y ddeiseb. Er nad yw hi “fel arfer yn ymateb i’r fath bethau”, meddai, roedd hi’n teimlo “yr angen i egluro ambell beth” y tro hwn.

“Ro’n i am ddangos fy nghefnogaeth i’n Grŵp Cynulliad,” meddai wedyn, ond gan gydnabod y byddai “wedi bod yn well wrth edrych yn ôl pe bawn i, er enghraifft, wedi postio’r gefnogaeth honno ar Facebook neu ar Twitter”.

Dywedodd ei bod hi’n “parchu” y byddai aelodau Plaid Cymru yn anghytuno â’i barn, ond nad oedd hi wedi disgwyl “bygythiadau, galw am fy niarddel a honiadau “garw” am ei rhan mewn “cynllwyn”. Mae’n ychwanegu ei bod hi “wedi cael digon”.

Wrth ymateb i’r bygythiadau, dywed ei bod hi’n barod i “weithredu” a’i bod hi “wedi bod o gwmpas yn rhy hir i odde’r fath beth”. Mae’n galw ar i unrhyw un sy’n credu ei bod hi wedi gwneud rhywbeth o’i le “i wneud cwyn ffurfiol”, gan ychwanegu ei bod hi’n “hapus i amddiffyn fy hun a’m gweithredoedd yn erbyn cefnlen o wasanaeth oes i’r Blaid ac i Gymru”.

Mae’n rhybuddio wedyn na fydd yn cael ei “gwthio allan gan ymdrechion i fwlio na chasineb cudd tuag at wragedd”.

https://www.facebook.com/helenmary.jones.9/posts/1433347080124113

 

Sefyllfa’r blaid

Wrth ymateb i ymchwiliad Plaid Cymru i honiadau yn erbyn Neil McEvoy, mae Helen Mary Jones yn dweud nad yw hi’n “foddhaol” fod yr ymchwiliad wedi cymryd cyhyd. Er hynny, mae’n cydnabod ei bod hi’n “rhy bell oddi wrth yr honiadau i wneud sylw” ar y mater, mewn gwirionedd.

“Mae’n amlwg fod rhai pobol sy’n methu ymdopi â menywod sy’n llwyddiannus ac yn ddylanwadol, sy’n methu ymdopi â menywod yn ffurfio perthnasau personol a phroffesiynol, yn cydweithio, yn adeiladu cysylltiadau, yn cefnogi ei gilydd, yn y modd y mae dynion wedi ei wneud erioed,” meddai.

“Pan fo dynion yn gwneud hyn, mae’n rhwydweithio proffesiynol. Mae’n debyg, os yw menywod yn gwneud hyn, ei fod mewn rhyw ffordd yn warthus ac yn faleisus.”

“Mae gen i ffydd yn Leanne Wood i wneud y peth iawn wrth ymdrin â’r sefyllfa.”