Mae tlodi plant yn “gyffredin” ledled y wlad, gyda thros chwarter plant Cymru yn byw mewn tlodi, yn ôl ystadegau newydd.

Ond mae’r sefyllfa ar ei gwaethaf yn y brifddinas, gydag un o bob tri o blant Caerdydd yn byw mewn tlodi.

Yn ôl ffigurau gan gynghrair End Child Poverty mae tua un o bob pedwar (28%) o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gydag un o bob tri yn byw mewn amodau sy’n cael eu disgrifio fel rhai “anffafriol”.

Ardaloedd yn ne a gorllewin Cymru sydd â’r cyfraddau uchaf o dlodi, gyda Chaerdydd, Blaenau Gwent, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ymysg y gwaethaf.

“Trafferth ymdopi”

“Unwaith eto, mae ffigurau yn dangos bod tlodi plant yn gyffredin mewn pob rhan o Gymru gyda nifer cynyddol o blant yn cael trafferth ymdopi,” meddai Sean O’Neill, Swyddog Polisi y mudiad Plant yng Nghymru.

“Rhaid i lywodraethau ar bob lefel sicrhau eu bod yn mynd ati ar frys i warchod teuluoedd sydd eisoes yn cael trafferth darparu adnoddau i’w plant.”

Tabl

  1. Caerdydd: 32.85%
  2. Blaenau Gwent: 32.12%
  3. Casnewydd: 31.75%
  4. Merthyr Tudful: 29.82%
  5. Sir Gâr: 29.64%
  6. Castell Nedd Port Talbot: 28.97%
  7. Ceredigion: 28.86%
  8. Sir Benfro: 28.64%
  9. Torfaen : 28.50%
  10. Pen y Bont ar Ogwr: 28.29%
  11. Abertawe: 28.23%
  12. Rhondda Cynon Taf: 28.08%
  13. Caerffili: 27.97%
  14. Sir Ddinbych: 27.33%
  15. Ynys Môn: 27.24%
  16. Conwy 26.70%
  17. Wrecsam: 25.39%
  18. Gwynedd: 24.68%
  19. Sir y Fflint: 23.71%
  20. Morgannwg: 23.51%
  21. Powys: 22.44%
  22. Sir Fynwy: 21.62%