Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi’i gyhuddo o gynnal ymosodiad Finsbury Park yng ngogledd Llundain, wedi dweud y byddai’n lladd pob Mwslim ychydig ddyddiau cyn yr ymosodiad.

Mae Darren Osborne, 48, wedi’i gyhuddo o yrru fan yn fwriadol tuag at dorf o addolwyr ger mosg yn Finsbury Park, gogledd Llundain, ar Fehefin 19 y llynedd.

Bu farw Makram Ali, 51, yn sgil yr ymosodiad a chafodd naw person arall eu hanafu.

“Lladd pob Mwslim”

Clywodd Llys y Goron Woolwich bod Darren Osborne wedi siarad yn uchel am frawychiaeth a Mwslimiaid mewn tafarn ym Mhentwyn, Caerdydd, ar Fehefin 17.

Yn ôl y Milwr Callum Spence, roedd y diffynnydd wedi dweud bod “pob Mwslim yn frawychwr” a “dw i’n mynd i ladd pob Mwslim”.

Clywodd y llys hefyd bod dyfeisiau cafwyd eu darganfod yng nghartref teulu Darren Osborne, wedi cael eu defnyddio er mwyn pori ar lein am ddeunydd asgell dde eithafol.

Cyhuddiadau

Mae Darren Osborne o Lyn Rhosyn, Caerdydd, yn gwadu’r cyhuddiadau o lofruddio ac o geisio llofruddio.

Bydd yr achos yn parhau ar ddydd Mercher (Ionawr 24).