Mae golwg360 yn deall bod canolfan wyliau yng ngogledd Ceredigion wedi cael caniatâd gan y cyngor sir i ddefnyddio enw Saesneg ar ei busnes.

Mae Mountain Sea View Glamping yn ganolfan wyliau ar fferm ddefaid yn ardal Eglwys-fach ger Machynlleth, lle mae modd i ymwelwyr wersylla mewn ‘podiau’ bychain.

Y gred yn wreiddiol oedd bod perchnogion y ganolfan wedi penderfynu defnyddio’r enw Saesneg ar gyfer y fferm, yn hytrach na’r hen enw Cymraeg, ‘Bwlcheinion’, a hynny oherwydd ei fod yn rhy anodd i bobol ei ynganu.

Ond ers i golwg360 gyhoeddi’r stori, mae arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn – a ddywedodd ei bod yn “hynod siomedig” gyda’r enw Saesneg – wedi cadarnhau bod y cyngor wedi rhoi’r hawl i berchnogion y ganolfan wyliau ddefnyddio’r enw fel un ar gyfer y busnes, ond nid ar gyfer y fferm.

Mae’n ymddangos erbyn hyn hefyd fod Mountain Sea View wedi dileu eu tudalen Facebook.

Mae golwg360 wedi cysylltu â nhw am ymateb.

Newid enwau yng Ngheredigion

Ymhlith yr ymatebion a fu i’r stori dros y penwythnos yw’r un gan y cyfrif Twitter @busnesda, sy’n nodi bod enwau saith tŷ yng Ngheredigion wedi cael eu newid i’r Saesneg ers 2015:

https://twitter.com/BusnesDa/status/954342527389356032

Mae’r trydariad hefyd yn cynnwys linc i adroddiad a gafodd ei gyflwyno i bwyllgor iaith y cyngor fis Rhagfyr y llynedd, sy’n ddiweddariad ar Bolisi Enwi a Rhif Strydoedd.