Mae un o ganghennau Plaid Cymru yn y brifddinas wedi cynnal cyfarfod arbennig ac wedi datgan “cefnogaeth lawn” i’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, a gafodd ei wahardd o grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Plaid Cymru wedi anfon llythyr at bob un o’i haelodau ddydd Gwener er mwyn ceisio egluro pam fod y berthynas rhwng Aelod Cynulliad Canol De Cymru a gweddill yr Aelodau ym Mae Caerdydd, wedi torri i lawr yn llwyr.

Ond mewn cyfarfod a gynhaliwyd neithiwr (nos Sul, Ionawr 21) mae Cangen Plasmawr yng Nghaerdydd yn cyhoeddi eu cefnogaeth i Neil McEvoy.

“Mae cangen Plasmawr Plaid Cymru yn datgan cefnogaeth lawn i Neil McEvoy fel ein Haelod Cynulliad Rhanbarthol ac Arweinydd grŵp y Blaid ar Gyngor Caerdydd,” meddai’r gangen.

“Yn ogystal â bod yn aelod ffyddlon a gwerthfawr o Blaid Cymru.”

Daw’r datganiad mewn llythyr at Gadeirydd, Arweinydd ac Arweinydd Grŵp Cynulliad Plaid Cymru, sydd yn amlinellu dymuniadau’r gangen.

“Triniaeth ofnadwy”

Ymhlith y dymuniadau yma mae’r galw am “ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r driniaeth ofnadwy o Neil McEvoy gan y Blaid a’i Arweinydd”.

Mae’r gangen hefyd yn galw am ymddiheuriad ysgrifenedig llawn i Neil McEvoy gan Gadeirydd ac Arweinydd y Blaid, Leanne Wood ac am ymchwiliad i’r berthynas rhwng Plaid Cymru a chwmni lobïo Deryn.

Mae golwg360 wedi gofyn i Blaid Cymru am ymateb.