Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi’i gyhuddo o gynnal ymosodiad Finsbury Park yng ngogledd Llundain, wedi gweithredu ar sail dicter tuag at Fwslemiaid.

Mae Darren Osborne, 48, wedi’i gyhuddo o yrru fan yn fwriadol tuag at dorf o addolwyr ger mosg yn Finsbury Park, gogledd Llundain, ar 19 Mehefin y llynedd.

Bu farw Makram Ali, 51, yn sgil yr ymosodiad a chafodd naw person arall eu hanafu.

Mae Darren Osborne o Glyn Rhosyn, Caerdydd, yn gwadu’r cyhuddiadau o lofruddio ac o geisio llofruddio.

Nodiadau

Ar ddechrau’r achos yn Llys y Goron Woolwich, dywedodd Jonathan Rees QC, ar ran yr erlyniad, bod y “weithred o drais eithafol” yn cael ei hystyried yn ymosodiad brawychol gan yr erlyniad. Honnodd hefyd bod Darren Osborne wedi ceisio lladd “cymaint o’r grŵp ag y gallai” pan yrrodd y cerbyd at y dorf.

Clywodd y llys bod y gyrrwr wedi teithio o Gaerdydd y diwrnod cyn yr ymosodiad, gyda’r bwriad o dargedu gorymdaith i ddathlu Diwrnod Al Quds – ond wedi chwilio am darged arall ar ôl penderfynu yn erbyn y cynllun yma.

Clywodd y rheithgor am nodiadau gafodd eu darganfod yn y cerbyd wedi’r ymosodiad a oedd yn cwyno am y cynnydd mewn achosion o frawychiaeth a sgandal cam-drin plant Rotherham.

Dywedodd ei bartner Sarah Andrews bod ganddo obsesiwn gyda Mwslemiaid yn yr wythnosau cyn yr ymosodiad.

Mae’r achos yn parhau.