Mae teitlau ac enwau cyfansoddwyr yr wyth cân sydd wedi’u dewis ar gyfer rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru 2018, wedi’u cyhoeddi.

Bydd yr wyth cân yn cael eu perfformio yng nghanolfan Pontio, Bangor, ar Fawrth 1, ac yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C gydag Elin Fflur a Trystan Ellis Morris yn cyflwyno’r rhaglen.

Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis drwy bleidlais gan y gwylwyr gartref, ac fe fydd cyfansoddwr y gân fuddugol yn derbyn gwobr o £5,000.

Yr wyth

  • ‘Dwi’m yn Dy Nabod Di’ – Dafydd Dabson ac Anna Georgina
  • ‘Tincian’ – Beth Williams-Jones a Sam Humphreys
  • ‘Dim Hi’ – Hana Evans
  • ‘Byw a Bod’ – Mared Williams
  • ‘Ysbrydion’ – Aled Wyn Hughes
  • ‘Ton’ – Gwynfor Dafydd a Michael Phillips
  • ‘Cofio Hedd Wyn’ – Erfyl Owen
  • ‘Ti’n Frawd i Mi’ – Owain Glenister

Y panel

Y cerddorion Al Lewis, Heledd Watkins a Dewi ‘Pws’ Morris yw aelodau’r panel a ddewisodd yr wyth cân, a hynny o blith 114 o ganeuon a gafodd eu hanfon i’r gystadleuaeth.

“Roedd nifer dda wedi cystadlu, a chroesdoriad da o oedrannau wedi cystadlu,” meddai Dewi Pws.

“Roedd y safon yn amrywio dipyn, ond gawson ni lot o hwyl yn dewis yr wyth oedd yn dod i’r brig – roedd yna dipyn o anghytuno!

“Geiriau yw fy mhethau i wastad wedi bod, dw i’n hoffi caneuon sy’n dweud rhywbeth – sy’n rhoi darlun neu emosiwn i ti.”