Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw yn gyhoeddus ar arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, i ymddiswyddo.

Mewn neges ar wefan Twitter, mae Heledd Gwyndaf yn nodi mai “shwt i’w gwaredu [Leanne Wood] yw’r cwestiwn ar feddylie pawb” ar hyn o bryd.

“Tri etholiad difrifol, a dyw hi heb feddwl am gyffro,” meddai. “Mae mor amlwg â’r dydd i bawb arall ers ache. Dylse hi fod wedi rhoi ei breichiau yn yr awyr sbel yn ôl tase hi wir yn malio am y genedl uwchlaw unrhywbeth arall.”

Ymateb yw’r sylwadau i neges – gan gyfrif arall – wedi’i chyfeirio at Blaid Cymru yn holi: “Pryd ydych chi am gael arweinydd newydd gan fod yr un sydd ganddoch yn difetha’ch plaid?”

Mae Cymdeithas yr Iaith yn pwysleisio bod Heledd Gwyndaf wedi gwneud y sylwadau “fel unigolyn” ac nid ar ran y mudiad.

Neil McEvoy

Mae’r sylwadau uchod i’w gweld ar neges Twitter sy’n tynnu sylw at lythyr agored i Blaid Cymru yn cwestiynu gwaharddiad yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy.

Yn ôl Plaid Cymru, fe gafodd Neil McEvoy ei wahardd o’r blaid ym mis Medi 2017 am “fethu â chadw at sawl cymal o’r Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog y Grŵp”.

Mae Neil McEvoy wedi gwrthod llythyr diweddar gan Blaid Cymru – sy’n ceisio egluro dirywiad y berthynas rhyngddyn nhw a’r Aelod Cynulliad – gan fynnu ei fod “yn llawn honiadau”.

“Sylwadau unigolyn”

Dywed Robin Farrar, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae Heledd wedi gwneud y sylwadau fel unigolyn, nid yn ei rôl fel cadeirydd y Gymdeithas.

“Rydyn ni fel mudiad yn trafod ein hymgyrchoedd gyda nifer o bleidiau yn rheolaidd, ond dydyn ni ddim yn ymwneud â materion mewnol pleidiau.”

Mae Plaid Cymru wedi dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw am ymateb i’r sylwadau.