Mae cyfraddau tlodi incwm yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl ffigyrau Oxfam, mae cyfradd tlodi incwm Cymru yn 23.5%, tra bod y gyfradd yn 21.6% yn Lloegr ac yn 18.6% yn yr Alban.

Mae adroddiad yr elusen hefyd yn tynnu sylw at anghydraddoldebau o fewn Cymru gan nodi bod menywod yn fwy tebygol o fyw ar incymau isel parhaus – 22% yw’r gyfradd i fenywod, 14% i ddynion.

“Camau cryf”

Meddai Pennaeth Oxfam Cymru, Kirsty Davies-Warner: “Credwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau cryf tros gyflogau isel.”

“Ac mi ddylen nhw ymrwymo i dalu Cyflog Byw i’w holl staff o fewn y Llywodraeth ac i’r gweithwyr sydd yn gweithio i gwmnïau sydd yn darparu gwasanaethau i’r Llywodraeth.”

“Gallan nhw hefyd sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn talu Cyflog Byw i’w gweithwyr.”

“Ffyniant i bawb”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu ffyniant i bawb a sicrhau bod gwaith teg ar gael i bob un yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae pob aelod o staff y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflogi’n uniongyrchol yn ennill y Cyflog Byw, ac mae hynny hefyd yn wir o fewn GIG Cymru ac ar gyfer yr holl staff sy’n dod o dan y contract cyffredin addysg bellach.”

Yn ôl y llefarydd mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi datblygu cod ymarfer “sy’n cefnogi arferion cyflogaeth moesegol ac yn annog cwmnïau i dalu cyflog teg i’w gweithwyr.”