Mae dirywiad y stryd fawr yn un o’r prif resymau pam fydd siop gemwaith yn Abergele yn cau fis nesaf.

Fe gafodd y busnes, Tlws, ei sefydlu yn 2005 gan gyn-athrawes o Lanfair Talhaearn, Gaynor Roberts, gyda’r lansiad swyddogol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Eryri’r flwyddyn honno.

O’r cartref roedd y busnes yn cael ei redeg yn wreiddiol, cyn symud i siop yn Abergele flwyddyn yn ddiweddarach yn 2006.

Ac ar ôl 11 mlynedd a hanner, mae perchennog y siop yn dweud ei bod hi am roi’r gorau iddi oherwydd y sefyllfa “fregus” mae’r stryd fawr yn Abergele wedi gorfod wynebu’n ddiweddar.

“Ers dechrau’r flwyddyn, mae HSBC wedi cau, mae Yorkshire wedi cau, ac wrth imi wneud y penderfyniad i gau, mi glywes i fod y banc drws nesa i ni, Barclays, yn cau cyn Nadolig,” meddai Gaynor Roberts.

“Dan ni wedi gweld gwahaniaeth ers i fanciau eraill gau ddechrau’r flwyddyn, ´dan ni wedi gweld gwahaniaeth, i ddweud y gwir, ynglŷn â faint o bobol oedd yn crwydro’r stryd, a faint o bobol oedd ddim yn trafferthu dod i Abergele ddim mwy.”

Lladrata

Mae Gaynor Roberts hefyd yn dweud bod y siop wedi bod yn darged i ladron dros y blynyddoedd diwethaf, gan greu costau “diangen” i’r busnes.

“´Dan ni wedi cael dau ladrad tu fewn i’r siop,” meddai eto, “y cyntaf pedair blynedd yn ôl a’r llall tair a hanner.

“Wedyn dwy flynedd a hanner yn ôl fe gafodd y ffenest blaen ei thorri a phethau eu dwyn, ac ers i mi benderfynu cau’r siop a rhoi arwyddion ar y ffenest yn dweud hynny, ar yr ail o Ionawr, fe gafon ni rywun eto yn torri i mewn drwy’r ffenest.

“Mae hynna jyst yn rhoi rhyw gadarnhad i fi fy mod i’n gwneud y penderfyniad iawn, mae’n debyg.”

Parhau gyda’r busnes ar y we

Ond er penderfynu cau, mae Gaynor Roberts yn mynnu ei bod yn gorffen y bennod hon yn ei hanes gyda “golwg bositif”.

“Dw i’r teip o berson sydd ddim yn aros yn llonydd yn hir iawn,” meddai.

“Dw i wedi gwneud gradd busnes tua blwyddyn yn ôl, a dw i newydd gychwyn swydd fel darlithydd busnes ym Mhrifysgol Bangor…

“Ac mae genna’i andros o stoc ar ôl, ac wedyn y bwriad ydy cario ymlaen ar y we, a hefyd o bosib cynnal stondin yn Eisteddfod yr Urdd, a gweld beth ddaw o hynny.”

Fe fydd Tlws yn cau ei drysau am y tro olaf ar Chwefror 18.