Fe fydd arbenigwyr yn dod ynghyd yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ddydd Llun i drafod y ffordd ymlaen i’r economi yn sgil y newidiadau i dollau pontydd Hafren.
Fe fydd yr uwchgynhadledd yn clywed gan arbenigwyr ym meysydd llywodraeth leol, addysg a’r sector preifat.
Mae disgwyl i fwy na 350 o bobol fod yn bresennol i glywed syniadau am sut i fagu cyswllt rhwng economi de Cymru a de orllewin Lloegr.
Mae’r tollau wedi’u gostwng ar ddechrau’r flwyddyn, ac fe fyddan nhw’n cael eu diddymu’n llwyr cyn diwedd y flwyddyn.
Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns fydd yn traddodi’r brif araith, ac fe fydd arbenigwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau ar ffurf panel.
‘Symbol o rwystr a hindrans i Gymru’
Yn ôl Alun Cairns, fe fu pontydd Hafren yn “symbol o rwystr economaidd a hindrans i Gymru” ar hyd y blynyddoedd.
“Tra bod y pontydd Hafren eiconig wedi gwasanaethu mudwyr, busnesau a chymunedau lleol yng Nghymru a Lloegr ers dros 50 mlynedd, maen nhw hefyd wedi bod yn symbol o rwystr economaidd a hindrans i lewyrch Cymru yn y dyfodol.
“Fe fu’r gost o groesi Afon Hafren ers tro yn rhwystro pobol a busnesau rhag integreiddio mewn ffordd y byddai economi naturiol yn ei hannog.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando ac wedi gwireddu’r addewid a wnaethpwyd i bobol Cymru gan y Prif Weinidog drwy gadarnhau y byddwn yn diddymu’r tollau i bob cerbyd ar ddiwedd 2018.
“Bydd gwneud hynny’n rhoi cyfle i ni greu rhanbarth economaidd ar ochr orllewinol y Deyrnas Unedig all gystadlu gyda Phwerdy’r Gogledd, Injan y Canolbarth ac economi Llundain a’r de-ddwyrain.
“O Gaerfaddon yr holl ffordd draw i Abertawe, gallwn greu màs critigol all godi llewyrch, creu mwy o gydweithio a chystadleuaeth a gwella cyfleoedd cymdeithasol a diwylliannol i bobol sy’n byw yn y rhanbarth.”