Mae glaw ac eira’n achosi problemau sylweddol i deithwyr ledled Cymru heddiw.
Fe fu sawl gwrthdrawiad ar yr M4 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, ac roedd y draffordd ynghau i’r gorllewin rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 36 (Sarn) y prynhawn yma.
Roedd gwrthdrawiad arall yn ystod y prynhawn rhwng cyffordd 36 (Sarn) a chyffordd 37 (Y Pîl), ac erbyn hyn, mae’r draffordd ynghau rhwng cyffordd 34 (Meisgyn) a chyffordd 35 (Pencoed).
Ymhellach i’r gorllewin, yn ardal Abertawe, mae’r ffordd ynghau rhwng cyffordd 46 (Llangyfelach) a chyffordd 45 (Ynysforgan) oherwydd amodau gyrru gwael.
Yn y dwyrain, fe fu gwrthdrawiad rhwng cyffordd 32 (Coryton) a chyffordd 30 (Porth Caerdydd), ac mae oedi’n bosib.
Ar yr A470, mae eira’n achosi problemau rhwng Betws-y-Coed a Blaenau Ffestiniog, ac mae llifogydd ar yr A44 yn ardal Goginan yng Ngheredigion.
Mae llifogydd ar yr A487 rhwng Machynlleth a Chorris.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Traffig Cymru.