Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am law trwm ar draws de Cymru heddiw.

Mae disgwyl hyd at chwe chentimetr o law ar dir uchel yn ystod yr oriau nesaf, ac mae’r rhybudd yn ei le tan 6 o’r gloch.

Mae’r rhybudd yn ei le yn Abertawe, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf.

Mae rhybudd i deithwyr gadw draw o’r M4 mewn mannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr oni bai bod gwir angen teithio.